Croeso i’r

Gwesty Llew Gwyn

Mae menter fusnes newydd Cerrigydrudion, gydag ethos cymunedol – bellach ar agor ar gyfer diodydd.

Amdanom Ni

Mae Gwesty’r Llew Gwyn yn fenter fusnes sydd newydd ei phrynu ar gyfer y gymuned, gydag ethos cymunedol wrth ei wraidd. Prynwyd y dafarn yn hydref 2021, a gennym gynlluniau gwych i adnewyddu’r dafarn dros y 2-3 blynedd nesaf.

Ein nod cyntaf oedd agor y bar ym mis Rhagfyr 2021, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu  gwneud hynny! Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn gweithio ar yr ystafelloedd gwely a brecwast, adnewyddu’r gegin, gardd, a mwy.

Mae tafarndai mewn gwirionedd yn darparu hwb cymunedol allweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Cerrigydrudion  – os ydych chi’n pasio, cofiwch alw heibio. Medrwch hefyd cadw lygad ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol i glywed y newyddion diweddaraf am ein datblygiad hefyd.

Oriau Agor

Ein Oriau Agor Arferol:

Nos Fercher: 6-11yh
Nos Iau: 6-11yh
Nos Wener: 6-11yh
Dydd Sadwrn: 3yp tan hwyr
Dydd Sul: 3-11yh

 

Cofiwch eich mwgwd, a chymerwch brawf LFT cyn dod allan.
Diolch am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth.

Noddi Ffenestr

Gennym 47 o ffenestri i’w hadnewyddu, ac oherwydd fod Gwesty’r Llew Gwyn mewn ardal gadwraeth – mae rheolau llym y mae’n rhaid i ni eu dilyn. Golyga hyn fod rhaid i’n ffenestri fod o steil penodol, sy’n medru bod yn ddrud.

Oherwydd hyn, gennym gyfle gwych i chi noddi ffenestr, efallai er cof am anwylyn neu i fod yn rhan o stori’r Llew Gwyn! I gael gwybod mwy, cysylltwch â ni.

Newyddion

Siop Mynydd Mostyn

Roedd rhan o brynu’r dafarn yn cynnwys y siop drws nesaf, ac rydym wrth ein boddau fod Mynydd Mostyn, sy’n eiddo i Elliw ac Einion Jones, wedi llogi’r lle. Mae’r ddau o  Gerrigydrudion yn wreiddiol. Mi fydd y siop yn siop ddi-griw, sy’n gwerthu nid yn unig eu llaeth Mynydd Mostyn ond cynnyrch lleol arall hefyd.

Y dyfodol

Beth Nesaf?

Ewch i’n tudalen Facebook, neu ein gwefan i gael y newyddion diweddaraf. Mae gennym daith gyffrous wedi’i chynllunio ar gyfer 2022 ymlaen, a byddem wrth ein bodd i chi fod yn rhan ohoni!