Nadolig 2025
Nosweithiau Parti Nadolig – Bob Nos Wener yn mis Rhagfyr
Dewch i ymuno â ni ar nosweithiau Gwener drwy’r mis: bwyd bendigedig, cerddoriaeth gwych, ac awyrgylch Nadoligaidd.
- 2 gwrs - £28 y pen
– 3 cwrs – £35 y pen
– Dau slot ar gael: 5:00yh ac 8:00yh
Adloniant wedi’i gynnwys (yn amrywio yn ôl y dyddiad)
Rhagfyr 12fed – Mic ar y Meic – yn llenwi’n gyflym; archebwch yn fuan i osgoi siom.
Y Bwydlenni
Mis Rhagfyr yn Y Llew Gwyn
Bwydlen Nosweithiau Parti Nos Wener
Come along and join us to celebrate every Friday in December with our festive 2 neu 3 cwrs.
Nosweithiau Sadwrn ym mis Rhagfyr
Ein bwydlen arferol gyda elfennau Nadoligaidd drwy gydol mis Rhagfyr - prydau arbennig tymhorol gyda thema Nadoligaidd.
Y Fwydlen Nadolig Dydd Sul
Bob Dydd Sul ym mis Rhagfyr, mae ein prydau rhôst yn troi’n Fwydlen Nadolig llawn — Prif brydau blasus, ychwanegion Nadoligaidd a phwdinau sy'n llawn naws yr Ŵyl.
Cinio hefo Siôn Corn - Dydd Sul 21ain o Ragfyr
Dewch a'r teulu am brofiad hudolus. Mwynhewch wledd Nadoligaidd traddodiadol. Byddwn yn cynnal dau slot, dewisiwch rhwng; 12yp neu 2.30yp.
Ar ôl i chi fwynhau’ch prydau, bydd gwestai arbennig iawn yn galw heibio. Bydd Siôn Corn yn ymweld â phob bwrdd ac fe fydd pob plentyn yn derbyn anrheg bach Nadoligaidd.
Diolch Nadolig i’r Gymuned
Eleni, byddwn yn agor y bar ar Ddiwrnod Nadolig rhwng 12:00pm – 4:00pm gyda diod Nadoligaidd am ddim i ddweud diolch am eich cefnogaeth ers i ni agor y gegin a’r bwyty ym mis Ebrill, ac wrth gwrs i ddymuno Nadolig Llawen i chi.
Dyma ein ffordd ni o ddathlu’r tymor gyda’r gymuned sy’n gwneud Y Llew Gwyn mor arbennig. Dewch i mewn, codwch wydr, a mwynhewch ychydig o hwyl Nadolig.
Yr Anrheg Perffaith – Tocynnau Y Llew Gwyn
Rhowch anrheg o fwyd blasus, tanau clyd, a hwyl Nadolig.
Mae ein tocynnau Y Llew Gwyn ar gael mewn unrhyw swm ac yn gallu cael eu defnyddio tuag at fwyd neu ddiod. Maent hefyd yn ddilys am flwyddyn gyfan o’r dyddiad prynu – yr anrheg Nadolig perffaith i ffrindiau a theulu.
