FAQs
FAQ’s
Oes angen i mi archebu bwrdd?
Rydyn ni wastad yn argymell archebu o flaen llaw, yn enwedig ar benwythnosau neu yn ystod digwyddiadau, i osgoi siom. Mae croeso i chi alw heibio, ond trwy archebu, gallwn sicrhau lle i chi a chael popeth yn barod ar eich cyfer.
Ydy cŵn yn cael dod i mewn?
Cânt, mae cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn fwy na chroeso yn y bar ac yn yr ardaloedd tu allan. Gofynnwn yn garedig eich bod yn cadw eich ffrind pedair coes i ffwrdd oddi wrth unrhyw un allai fod yn mwynhau pryd o fwyd yn yr ardaloedd hynny.
Oes gyda chi le parcio?
Mae gennym le parcio y tu ôl i’r safle – mae digon o le fel arfer, ond gall fynd yn eithaf prysur ac felly allwn ni ddim wastad warantu lle.
Ydy’r dafarn yn hygyrch i gadeiriau olwyn?
Oes. Mae mynediad gwastad i’r bar, ac fe wnawn ein gorau glas i helpu os oes angen cymorth arnoch. Rhowch alwad i ni o flaen llaw os hoffech chi wirio unrhyw beth. O ran y bwyty, mae dau gam bach – ac rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio ar y logisteg i wella mynediad. Fe wnawn ddiweddaru yma unwaith fydd y bwyty’n fwy hygyrch. Wrth gwrs, mae croeso i chi fwynhau’r un fwydlen yn ardal hygyrch y bar.
Ydych chi’n darparu ar gyfer anghenion dietegol?
Yn hollol. Mae ein bwydlen yn dymhorol ac yn hyblyg, ac rydyn ni’n hapus i ddarparu ar gyfer anghenion dietegol lle bynnag y gallwn. Rhowch wybod am unrhyw ofynion neu alergeddau wrth archebu, ac fe wnawn ein gorau i ofalu amdanoch. Fel arall, rhowch wybod wrth y bwrdd cyn gosod eich archeb.
Ydy’r gwersyllfa’n addas ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur?
Ar hyn o bryd, dim ond pebyll sydd ar gael ar ein safle. Efallai y gallwn dderbyn faniau gwersylla a chartrefi modur os byddwch yn anfon ymholiad drwy’r dudalen gysylltu ac rydym yn gallu eich cynnwys. Mae gan bob lle wersylla fynediad at bwynt trydan – yn berffaith ar gyfer codi tâl ar ddyfeisiau neu bweru offer bach yn ystod eich arhosiad. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein tudalen wersyllfa lle gallwch ddod o hyd i’r ddolen archebu.
Ydych chi’n cynnig cerddoriaeth fyw neu ddigwyddiadau?
Ydyn, yn rheolaidd! Edrychwch ar ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau neu dilynwch ni ar Facebook am y newyddion diweddaraf.