Amdanom
Gwesty Llew Gwyn - Cerrigydrudion
Wedi’i leoli yng nghalon y pentref, mae’r Llew Gwyn yn fwy na thafarn yn unig – mae’n adlewyrchiad o’r gymuned a ddaeth ag ef yn ôl yn fyw. Ar ôl bod yn wag am sawl blwyddyn, mae’r lle arbennig hwn wedi’i adfywio gan bobl Cerrigydrudion a thu hwnt, gyda dros 60 o gyfranddalwyr yn dod ynghyd i ailagor y drysau a rhoi’r dafarn yn ôl yn ei lle naturiol yng nghanol bywyd y pentref.
Mae ein stori yn un o wydnwch, balchder, a chred gyffredin yn yr hyn y gall tafarn leol dda fod. Bellach yn cael ei rhedeg gan y gymuned, mae’r Llew Gwyn yma i bawb – os ydych yn ymuno â ni am beint tawel wrth y tân, yn dal i fyny â ffrindiau dros bryd o fwyd, neu’n galw heibio wrth deithio drwy Ogledd Cymru.
Y tu mewn, rydym ni wedi gweithio’n galed i gyfuno cysur â chymeriad. Mae’r nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw lle bo modd, tra bo’r gofod wedi’i adnewyddu’n ofalus i deimlo’n groesawgar ac anffurfiol. Mi gewch chi far yn llawn o gwrw lleol, seidr ac amrywiaeth o winoedd a gwirodydd – gyda bwyd bellach yn cael ei weini.
Rydym ni’n frwd dros gadw pethau’n lleol o’r cyflenwyr rydym ni’n gweithio gyda nhw. Mae’r tîm yn cynnwys wynebau cyfeillgar o’r ardal leol, i gyd yn ymroddedig i greu lle croesawgar a chynnes i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Cerddoriaeth fyw, nosweithiau cwis, a digwyddiadau cymunedol – mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser yn y Llew Gwyn. A dyma'r dechrau. Gyda’r bwyty’n agor yn fuan ac ambell gynllun ar y gweill ar gyfer llety, rydym ni’n gyffrous i dyfu mewn ffyrdd sy’n parhau i wasanaethu’r bobl lleol.
Os ydych wedi adnabod y dafarn ers blynyddoedd neu’n ei darganfod am y tro cyntaf, rydym ni’n falch eich bod chi yma. Dyma eich tafarn chi, ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yma yn fuan.